Annwyl Bethan Jenkins

Adolygiad o Wasanaethau Treftadaeth yng Nghymru

Atodaf lythyr a ysgrifennais heddiw at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, sy’n mynegi rhai o’m pryderon am ei gynlluniau i sefydlu perthynas agosach rhwng yr Amgueddfa Genedlaethol a Chadw.

Rwy wedi gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol yn ystod fy ngyrfa, ac wedi gwneud gwaith ymgynghorol ar addysg iddynt hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn yn gyfrifol am y Cwricwlwm Hanes yng Nghymru, cefais y fraint o gyd-weithio’n agos gyda nifer o sefydliadau treftadaeth, gan gynnwys rhai cenedlaethol a rhai lleol, a dysgais i lawer am eu gwaith. Mae ganddynt bob un ran allweddol yn y broses o gynnal a datblygu ein dealltwriaeth o’n hanes, yn lleol ac yn genedlaethol, ond mae gan bob un gyfraniad gwahanol i’w gynnig. Mae amgueddfa yn wahanol iawn yn ei swyddogaeth i gorff fel Cadw sy’n diogelu a dehongli safleoedd hanesyddol.

Pryderaf yn fawr am effaith y toriadau presennol ar amgueddfeydd ein gwlad yn gyffredinol, ac yn arbennig yn yr achos hwn am benderfyniad yr Ysgrifennydd ynglŷn â’r berthynas rhwng Cadw a’r Amgueddfa Genedlaethol. Dyma ddatblygiadau sy’n debyg o lastwreiddio cyfraniadau unigryw sefydliadau cendedlaethol gwahanol iawn eu natur.

Gobeithio y byddwch chi, fel Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad yn rhannu fy mhryderon, ac yn trefnu ymchwiliad brys i’r cynlluniau hyn, sydd yn fy marn i yn peryglu yn hytrach na diogelu treftadaeth Cymru.

Yn gywir iawn

Elin Jones